top of page
Search
  • lleucugwenllian

Amser i fentro - update diwedd Tachwedd

Yn groes i'r cynllyn gwreiddiol, dwi heb flogio ers canol Hydref ond dwi wedi bod yn cadw nodiadau am yr hyn dwi 'di bod wrthi'n gwneud! Dyma gipolwg bach o'r hyn dwi wedi bod yn gwneud dros yr wythnosau dwytha:


19eg o Hydref:


Y prif beth oedd gen i ar u gweill heddiw oedd printio bagiau ar gyfer y Siop Werdd. Roeddwn i'n rili excited i gychwyn arni am bod na ink Speedball arbennig ar gyfer defnydd wedi cyraedd yn y post dros y penwythnos. Dwi'n rili hapus efo sut mae'r bagiau yn edrych ond mae nhw'n cymryd gymaint o amser i'w printio! Mi wnes i dreulio drwy'r dydd yn printio 12 ohonyn nhw felly croesi bysedd fydden nhw'n boblogaidd. Mae 'na fideo bach o'r broses printio ar instagram ✨

Hefyd mi wnaeth y cardiau dwi wedi orddro o Print.work gyraedd yn ystod yr wythnos felly dwi wedi bod yn tynnu lluniau neis ohonyn nhw yn barod at Etsy a wedyn mi wnes i bacio nhw mewn bagiau bach cellophane. Dwi am roi ordor arall i mewn yn fuan o'r dyluniadau cardiau eraill ac ella ambell i brint.




26ain o Hydref:


Mi wnes i dreulio'r diwrnod yn creu dau ddyluniad ar gyfer addurniadau Nadolig ar gyfer prosiect ar y cyd efo Llio Davies o https://www.lliodaviesdesignermaker.com/


Mi wnes i'r ddau ddyluniad yn y rhaglen Procreate, wedyn eu trosglwyddo i Adobe Illustrator i baratoi'r ffeil yn barod i Llio allu eu gyrru i ffwrdd i'r cwmni sy'n creu y decals serameg.



Dyma Lygoden fach Nadoligaidd ⭐️


A dyma angel fach!


Dwi'n hapus o fedru rhannu y lluniau o'r addurniadau terfynnol ar ôl i Llio eu rhoi yn y kiln:



Yn anffodus dim ond riw chwech o'r batch cyntaf wnaeth oroesi'r tanio, ond mae batch arall ar y ffordd a mi fydden nw ar gael arlein yn fuan.


2il o Dachwedd:


Diwrnod prysur heddiw - mi wnes i brintio prints papur o'r ladi gymreig ar ôl i fi gael cwpl o ymholiadau ar instagram. Doeddwn i heb feddwl gwneud print bach syml felma ond dwi'n eitha hapus efo'r ffordd mae nhw wedi troi allan!



Hefyd mi wnes i ddechrau printio cardiau nadolig stamp lino arall wnes i yn ddiweddar, ond dwi ddim yn hapus iawn efo'r canlyniad:

Pin bach yn frustrating ond 'na ni, mae cael amser i arbrofi yn ystod y dydd yn luxury a 'di bob dim ddim yn mynd i fod yn sweeping success! Ella mod i wedi gadael hi'n rhy hwyr braidd i wneud cardiau nadolig blwyddyn yma - dwi'm yn gweld y byddai'n cael cyfle i wneud rhai efo digon o amser yn sbar rhwng bob dim.

Mi neshi hefyd gymryd y cyfle i ffotograffu printiau lino o Forwyn Llyn y Fan wnes i yn mis medi - mi wnes i dalu i'w mowntio nhw yn oriel Moelwyn a dwi'n rili ples efo'r ffordd mae nhw'n edrych rwan. Dwi'n edrych ymlaen i'w rhyddhau nhw - dwi isho rhoi chunk o'r elw i elusen trais yn y cartref yn sgil yr holl adroddiadau ofnadwy 'ma sydd wedi dod allan yn ddiweddar am y cynnydd mewn trais yn y cartref yn ystod y pandemic:



9fed o Dachwedd:


Dwi wedi bod eisiau dylunio mwy o ddarnau papercut fyddai'n addas ar gyfer tote bags a ballu, felly heddiw mi fues i'n gweithio ar hwn:


Unrhyw esgus i wneud llun o forforwyn!

Hefyd, nôl yn mis Hydref nes i drafod efo Meilyr o'r dref Werdd am y potential i greu print arbennig i godi pres at y banc bwyd yma yn Blaenau, felly dwi wedi dechrau cerfio darn lino newydd o fran goesgoch efo'r Moelwynion yn y cefndir - mae 'na bârau yn nythu yn y chwareli yn lleol bob blwyddyn a mae nhw'n adar trawiadol, felly oni'n meddwl fysa nhw'n destyn da!

neshi drio ngora i gerfio gymaint a phosib de, ond mae papercut a lino yn waith annifyr ar y bysedd a does na'm digon o oriau mewn diwrnod i wneud bob dim. Ond, dwi'n edrych ymlaen i gerfio mwy pan gai gyfla!

(Proses o'r border blodeuog, aka y darn mwya ffidli wnaeth lyncu riw dair awr)


16eg o Dachwedd:


Mi ges i orffen cerfio y Frân Goesgoch heddiw, a nes i lwyddo i brintio yr haen gyntaf! 'Reduction print' fydd hi, sy'n golygu fod angen i fi brintio y darn dair gwaith a thorri darnau allan o'r leino rhwng pob 'run'. Mi oni 'di archebu papur printio handmade ac ink Schminke yn arbennig ar gyfer i prints 'ma - deunyddia 'pin bach yn ddrud, ond mai di bod yn flwyddyn ofnadwy so neshi benderfynnu trîtio fy hun.


(wedi gorffen cerfio yr haen gyntaf)


(Yr haen goch gyntaf!)

Roedd gen i hiraeth mawr am 'stafell printmaking y brifysgol - does gen i ddim printing press felly roedd raid i fi wneud y printio efo cefn llwy bwdin (high tech ta be) a troi bob man i mewn i riw fath o drying rack makeshift. Diwrnod productive iawn. 23ain o Dachwedd:


Amser printio ail haen y brain coesgoch! Dwi 'di penderfynnu splashio allan eto ar bot o inc aur lyyysh gan Speedball a wir dduw mi oedd printio efo fo'n un o highlights 2020. Mashwr bod huna'n rili trist ond na ni de, mai di bod yn flwyddyn ofnadwy. Cyn printio'r ail haen mi oedd raid i fi gerfio'r pîg, y coesau a'r aeron rownd y bordor allan:

A dyma ni! Dydi'r sglein ar yr aur ddim yn dangos yn iawn ar y llun ond mae o'n effaith lyfli.

Gwaith ara deg 'di printio 25 o frain efo llwy, felly dyna ni am heddiw.


30ain o Dachwedd


Wedi gorffen printio y brain o'r diwedd heddiw! Mi fuishi wrthi nos Sul hefyd a roedd hi'n teimlo braidd fel bod na ddim terfyn arni. Yr haen olaf oedd yr anodda, am bod raid i fi dori y lino gwreiddiol yn ddarnau er mwyn gallu rhoi inc du dim ond ar y frân ac inc llwyd gradient ar y mynyddoedd tra'n cadw'r cefndir yn lân. Dwi 'di bod yn pacio y prints wedi sychu gyda'r nos, yn barod i fynd cyn gynted a phosib - dwi isho trafod efo'r banc bwyd beth fyddai'r ffordd orau o drefnu y codi pres cyn i fi gychwyn eu hyrwyddo, felly last leg wan! Croesi bysedd fydden nhw'n plesio 😊

(Hostile takeover o'r bwrdd bwyd. Spot the printing spoon.)

(Prints terfynnol yn sychu)

0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page