top of page
Search
  • lleucugwenllian

Amser i Fentro

Helo! Mae gen i track record reit wael o 'sgwennu blogs, ond tro 'ma mae gen i reswm da i gadw un. Dros yr haf roeddwn i'n ffodus i gael cymryd rhan yn rhaglen 10 wythnos Llwyddo'n Lleol - bob bore Mercher roeddwn i'n cael eistedd mewn zoom call efo criw Llwyddo'n Lleol wrth i ni gyd ddatblygu ein busnesau dan arweiniad Elen a Geraint o Menter Môn. Yn dilyn y rhaglen mi gafon ni y newyddion gwych fod cefnogaeth bellach yn mynd i fod ar gael i ni, o dan cynllyn newydd o'r enw Amser i Fentro, fydd yn caniatau i ni neilltuo amser bob wythnos am gyfnod o 3 neu 6 mis i gario ymlaen i ddatblygu ein busnes.


Heddiw oedd y diwrnod cyntaf i fi, a dwi'n teimlo'n rili cynhyrfus yn barod - Dwi am ddefnyddio'r amser i ddatblygu'r ochr machnasol o fy musnes. Dwi wedi bod yn bwriadu gweithio ar hyn ers mis Mawrth, ond dwi wedi bod yn lwcus i fod yn brysur efo prosiectau cleient a felly heb gael cyfle i fuddsoddi'r amser i ddatblygu'r ochr yma o'r busnes. Un peth dwi wedi bod yn awyddus i archwilio ydi creu cyfres o gardiau, felly dyna oedd y prif beth oedd gen i ar y gweill heddiw.

Mi ges i gyfarfod efo Nia o Blas Glyn y Weddw yn ddiweddar i drafod gwerthu cardiau yno - Roedd hi'n hael iawn ei hamser ac yn llawn o gyngor gwych - mi wnes i adael yn teimlo'n lot fwy hyderus am werthu cardiau. Mi wnaeth hi annog fi i adeiladu ar y ddau ddarlun yma a'u troi i mewn i gyfres o gardiau:


Felly dyna wnes i heddiw. Mi wnes i orffen dau ychwanegiad newydd i'r gyfres:


Mae gen i ddau ddyluniad arall yn y pipeline ar gyfer y gyfres cyn i fi ddechrau cynhyrchu, felly mi wnai hynny wythnos nesa. Dwi wedi cael batch arbrofol yn ôl o printwork.com wythnos dwytha hefyd a roeddwn i'n hapus iawn efo'r safon, felly unwaith dwi'n cael cyfle i orffen y dyluniadau mi fyddai'n barod i fynd!


Yn ogystal a hyn mi wnes i biciad i weld Tanwen yn Siop Werdd newydd Blaenau i drafod gwerthu tote bags yno pan mae'r siop yn agor! Roedd hi wedi gweld y dyluniad yma ar fy instagram wythnos dwytha a wedi meddwl y byddai'n gweithio'n dda ar fag:




mi oedd o'n lyfli i weld hi a dwi'n rili edrych ymlaen i ddechrau printio y bagiau! Dwi 'di archebu inc lino defnydd, felly croesi bysedd fydd hwnnw'n cyraedd erbyn wythnos nesaf.




Ar ben hyn mi ges i sgwrs efo Llio Davies (@lliodaviesdesignermaker - ewch i edrych ar ei instagram hi, ma'i gwaith hi'n amazing!) am gydweithio ar brosiect yn barod at y Nadolig! 'Da ni 'di bod yn trafod y peth ers dipyn, felly dwi mor excited bod ni am fynd amdani blwyddyn yma - mi fyddai'n rhannu 'chydig o'r broses yn fan hyn dros yr wythnosau nesaf.


All in all roedd hi'n ddechra productive iawn i'r cynllyn newydd yma, a dwi'n rili edrych ymlaen i weld sut fydd pethau'n datblygu dros y misoedd nesa!


hwyl am y tro 😁


Lleucu

0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page