top of page
lleucugwenllian

Tachwedd 2024


“How sad would be November if we had no knowledge of the spring.” - Edwin Way Teale

Llygoden fach yn eistedd mewn coeden persimon

Yn dilyn dyddiau hyfryd mis Hydref, mae Tachwedd yn fis sy'n anodd i'w dderbyn. Mae'r aur a'r copr yn troi'n llwyd a melyn, yr haul yn colli ei wres, a'r dyddiau'n byrhau. Mae'n anodd cadw'r ci bach du o'r drws wrth i'r tywydd suro, cyn i ddyddiau gwell gaeaf caled ffeindio'u traed.


Dydi'r tymheredd ddim yn fy mhoeni - dwi'n licio'r tywydd oer, yn enwedig yn dilyn haf crasboeth Macedonia. Y broblem ydi'r cyfnod llwyd, gwlyb yn y canol. Mae'n anodd egluro, ond dydi'r tywydd tamp yn fan hyn ddim fel glaw Ffestiniog - adref, mae 'na riw gymhlethtod i'r cymylau, a'r llechi a'r coed yn disgleirio ar ôl storm. Yn fan hyn, mae 'r tywydd llwyd yn fflat, gyda'r tirlun a'r awyr yn troi'n un haen aniddorol o lwyd. Dydi o ddim yn helpu fod Kavadarci mewn pant di-wynt, lle mae'r mwg tan coed a'r llygredd i gyd yn setlo fel blanced dros y ddinas ac yn gwrthod symyd am ddyddiau.


Er gwaetha'r melancoli cyffredinol a'r tywydd soeglyd mae hi wedi bod yn fis prysur, a gyda'r bwrdwn gwaith yn cynyddu dwi'n teimlo'r ysfa arferol i lithro i mewn i gyfnod o ddiffyg ysgogiad.


Mewn adegau fel hyn dwi'n trio canolbwyntio ar yr holl fendithion yn fy mywyd. Wrth imi sgwennu, dwi'n eistedd ar y soffa, dan flanced drwchus ger y tân, gyda fy nghŵn wrth fy ochr. Mae Celt yn gorwedd ei ben ar fy mol sy'n ei wneud yn anodd i deipio, ond yn hawdd i blannu sws ar ei ben bach gwirion. Mae Tufi wedi cyrlio wrth fy nghraed yn cysgu, yn chwyrnu'n ysgafn. Mae'r haul yn machlud tu allan - machlud pinc golau gaeafol, y lliwiau pastel yn toddi i'w gilydd drwy ffilter y mwg tân coed sy'n llifo o simneoedd pawb. Bydd fy ngwr adref cyn bo hir. Tu allan, mae'r coed persimon wedi colli eu dail, ac mae'r ffrwythau'n hongian fel baubles oren llachar ar y canghenau noeth, fel riw fath o addurniadau naturiol.


Dwi wedi bod yn gweithio ar brosiect Nadoligaidd, sy'n gwneud imi deimlo'n obeithiol. Fydd y llyfr ddim allan tan y flwyddyn nesaf, ond mae 'na rwbath rhamantus am gael gweithio ar ddarluniau Nadoligaidd dros y cyfnod Nadolig. Heblaw am hynny roedd Tachwedd yn fis o barhad - roedd pob prosiect oedd gen i ar y gweill yn ddilyniant i rywbeth sy'n bodoli'n barod. Mae hyn yn rhywbeth sy'n dod a llawer o falchder imi, ei fod yn bosib i weithio gyda pobl annwyl dros gyfnod estynedig, mewn gyrfa sydd fel arall yn reit unig.


Mae'r cyfnod od rhwng hydref a gaeaf wastad yn llawn melancoli a hiraeth, ond mae hefyd yn adeg da i adlewyrchu ar y pethau bychain, i ymgynull gyda ffrindiau a cheiso dod a 'chydig o wres i'n bywydau. Dros y penwythnos buon ni'n cerdded rhwng Prilep a Treskavec. Roedd y daith yn adlewyrchu'r cyfnod rhywsut - roedd rhaid i ni gerdded i mewn i gwmwl reit fygythiol yr olwg wrth ddechrau ar y daith, ond wrth i ni nesau at y copa dyma'r cymylau'n toddi i ffwrdd i ddatgelu awyr las, a golygfa bendigedig dros fôr o gymylau tuag at Solunska Glava, Kozijak, Krusevo ac i lawr tuag at ddinas Prilep. Wedi'r daith dyma ni'n ymuno gyda criw o ffrindiau am fwyd yn y ddinas, ac wrth i ni rannu bwyd a chwarae pŵl, dyma gofio fod cyfnodau anodd wastad yn dod i ben.


Rhwng Prilep a Treskavec, gyda mynydd Kozijak mewn eira yn y pellter

Cysegr yn y niwl ar y ffordd i Treskavec



20 views

Recent Posts

See All
bottom of page