Mawrth 2025
- lleucugwenllian
- Apr 22
- 3 min read

Yn Macedonia, mae 'na ddywediad am fis Mawrth, sef "Mart so deveti umni" - Mawrth a'i naw meddwl. Mae'n ffordd o ddisgrifio oriogrwydd y mis wrth i'r gwanwyn riw hanner gyrraedd cyn i'r gaeaf ddod yn ôl eto am benwythnos - y tir yn binc â blodau'r coed apricot ac almonau gwyllt un wythnos, a'n wyn dan flanced o eira unwaith eto'r wythnos ganlynol.
Mae'r gwanwyn yn gyfnod o adnewyddiad, a dwi wastad wedi meddwl ei fod yn well amser i wneud addunedau na cychwyn y flwyddyn. Mae 'na rywbeth am wres yr haul ar yr amrant a chân yr adar mân ar y gwynt unwaith eto sy'n rhoi egni newydd i rhywun.

Wrth i'r iselder tymhorol adael fy nghorff mi wnes i ail-edrych ar fy nhargedau ar gyfer y flwyddyn. Dwi 'rioed 'di bod yn ffan mawr o addunedau - dwi'n fwy tebygol o ddefnyddio'r flwyddyn newydd fel esgus i roi newidiadau er gwell off am gwpl o fisoedd - ond blwyddyn yma nes i osod ambell i darged darlunio i fy hun. Roeddwn i am ddilun sialens gwahanol bob mis, a threulio hanner awr yn dalrunio cyn dechrau gweithio go iawn.
Sialens Ionawr oedd darlunio byw, a nes i lwyddo bod yn gyson, gan ddarlunio mwy neu lai bob dydd. Yn mis Chwefror, roeddwn i fod i greu un portread y dydd. Dim ond un oedd gen i erbyn diwedd y mis.
Sialens mis Mawrth oedd tirluniau. Dyfalwch faint wnes i lwyddo i wneud mis Mawrth?

Wedi methu dal i fyny efo fy sialens fy hun, roedd hi'n amser ail-feddwl. Ar un llaw, dwi wir angen gweithio ar wneud amser ar gyfer gwaith personnol. Dwi'n siwr ei fod yn swnio'n reit wirion a'n hollol self-indulgent, a mewn gwirionedd mae o yn eithaf hunanol, ond y broblem ydi fod angen cynnal yr angerdd am y grefft er mwyn creu gwaith o safon ar gyfer cleientiaid.
Mae'n anodd i feddwl am ddarlunio for fun fel rhan o bractis proffesiynnol, ond mae'n rhan bwysig o'r hyn sy'n cadw gwaith yn ddiddorol a'n ffres. Wrth weithio ar brosiectau "go iawn" dwi'n ei gweld hi'n hawdd i fynd ati i ddarlunio - mae'r testyn yn ysbrydoliaeth, a dwi'n teimlo mod i'n gwybod be dwi'n gwneud. Pan dwi'n trio mynd ati i wneud gwaith "personol" dwi'n rhewi, a'n syllu ar dudalen wag heb syniad sut i'w llenwi.

Dwi'n poeni weithiau mod i wedi colli'r angerdd a'r llawenydd plentynaidd oedd yn arfer dod wrth ddarlunio, wrth fynd o un prosiect i'r llall heb gymryd amser i anadlu. Dwi'n poeni fod Instagram ac AI wedi rhoi'r pwysa anferth yma arnon ni i greu a chreu a chreu ac allbynnu fel petasen ninnau hefyd yn rhedeg ar feddalwedd ac algorithmau. Dwi'n poeni am ddyfodol darlunio a chreadigrwydd dynol, sydd ddim yn gweithio fel vending machine creadigol lle mae'n bosib rhoi gorchymun i mewn a chael "celf" allan.
Wedi dod i'r canlyniad mod i'n trin fy hun fel robot, dwi wedi diweddaru fy addunedau ar gyfer y flwyddyn yma. Dwi eisiau ail-ganfod y llawenydd oedd gen i unwaith am ddarlunio. Dwi eisiau gwneud amser i arbrofi, heb roi pwysau ar fy hun i greu campwaith. Dwi eisiau caniatau i fy hun ddweud na, i wneud amser i ddilyn trywydd syniadau newydd, yn hytrach na neidio'n syth o un deadline tyn i'r llall.

O.N. - Ar nodyn llawer hapusach, un o'r pethau mwyaf cyffrous ddigwyddodd yn mis Mawrth oedd clywed fod Llanddafad wedi cyraedd rhestr fer Gwobrau Tir na n-Og! Roedd hi'n bleser gweithio efo Gareth Evans-Jones i ddod a'i gymeriadau yn fyw blwyddyn dwytha, a mae mor hyfryd cael ail-ymweld a'r gyfrol.

Comentários