top of page
Search

Chwefror 2025

  • lleucugwenllian
  • Mar 19
  • 1 min read
"Byr yw Chwefror, ond hir ei anghysuron"
"Byr yw Chwefror, ond hir ei anghysuron"

Does gen i ddim llawer i'w ddweud am Chwefror, mis hira'r flwyddyn - mae sawl prosiect ar y gweill, ond dwi'n methu son riw lawer ar y funud.


Mae hyn yn hollol arty-farty, ond mi wnaeth 'na fetaffor daro fi wrth fynd am dro efo dad tra oeddwn i adref yng Ngogledd Cymru ar ddechrau'r mis: Mae bywyd fel croesi cors.




Efallai fod pen eich taith o fewn golwg, a ddim yn bell fel hed y frân, ond os ewch ar eich pen mewn llinell syth, buan iawn y ffeindiwch eich hunan at eich canol mewn mwd a dŵr.


Mae'n well croesi'n ofalus, newid cyfeiriad lle bo angen, a chamu i lefydd annisgwyl er mwyn osgoi gwlychu'ch traed.


Ydi hynny'n gwneud synnwyr?


Ella ddim.

 
 
 

Recent Posts

See All

Comments


  • Instagram
bottom of page