Mai 2025
- lleucugwenllian
- 7 hours ago
- 4 min read
Roedd Mai yn oer blwyddyn yma, a'r gwanwyn yn cael trafferth gafael arni'n iawn. Dwi ddim yn cwyno - roedd hi'n dywydd perffaith i fynd i gerdded, a mi fuon ni ar ddau drip cofiadwy yn ystod y mis.
Cefais y cyfle i weithio efo criw Adnodd ar eu strategaeth newydd yn ystod y mis, yn barod ar gyfer Eisteddfod yr Urdd. Roedd yn brosiect gwahanol i'r arfer, a roedd y sialens o weithio ar gyfres o ddarluniau mwy "conceptual" yn ofnadwy o ddiddorol. Roedd gen i lot o ryddid i lywio'r steil gweledol gan mai'r peth pwysicaf oedd cynrychioli neges y strategaeth, yn hytrach na chyfleu stori a set o gymeriadau oedd yn bodoli yn barod.

Dechreuom efo cyfres o gymeriadau i gyfleu y gwahanol "archetypes" ar gyfer sut mae pobl yn defnyddio'r adnoddau addysgiadol mewn ffyrdd gwahanol. Roedd o'n ddiddorol ceisio cynrychioli'r syniadau yma ar ffurf cymeriad, ond wrth brainstormio roedd y syniadau yn llifo:

Ar gyfer y "Pencampwr Digidol", roeddwn i'n gwybod yr hoffwn i gyfleu'r syniad o ddefnyddio VR, a'r syniad o gael holl wybodaeth y byd "at your fingertips", ac y byddai'n rhaid i'r cymeriad ymddangos yn fodern a'n hyderus, tra fod angen i'r "Fforwr Ffyddlon" fod yn anturiaethwr ymarferol, yn cydio'n dyn yn ei fap.

Roeddwn yn hoffi'r syniad o gael draig goch fach yn cysgu fel cath ar ysgwyddau'r "Cyfieithydd Blinedig", i gyfleu'r holl oriau ychwanegol mae'r archetype yma'n rhoi i mewn i gyfieithu'r holl adnoddau, ac y byddai'r speech bubbles yn cynnwys symbolau cymraeg, er mwyn cyfleu'r syniad o gyfieithu heb orfod rhoi geiriau yn y darlun ei hun. Roeddwn yn gwybod y byddai'r "Arloeswr" yn wyddonwraig wych - dechreuais gyda'r syniad o greu trefn allan o ddryswch, ac yn gyntaf meddyliais am ddangos arbrawf cemegol, ond wedyn penderfynais ganolbwyntio ar y syniad o "wehyddu" synnwyr allan o sawl edefyn dryslyd.
Roedd dau fersiwn o'r "Addaswr" - yn wreiddiol darluniais ddynes yn teilwra ffrog er mwyn cyfleu'r syniad o addasu heb fod yn rhy llythrennol, ond roedd angen mwy o gynrychiolaeth gyrywaidd, felly brasluniais ddyn yn adeiladu ac addasu "tree house" (dwi ddim yn hollol siwr be di'r gair Cymraeg!). Yn y diwedd dyma ni'n cytuno mai'r syniad cyntaf oedd ora, dim ond ein bod angen newid y cymeriad i fod yn yrywaidd.
Dyma'r dyluniadau terfynnol:
Mewn sawl ffordd, roedd y strategaeth ei hun yn fwy o sialens gan mai'r hyn oedd yn bwysig cyfleu oedd y syniad yn hytrach na math penodol o gymeriad, ac roedd angen crynhoi syniadau mawr megis cydraddoldeb, cydweithio a llythrenedd.

Y cam cyntaf oedd argraffu'r drafft, a braslunio o gwmpas gosodiad terfynnol y testyn. Un o'r prif elfennau oedd yn llifo drwy'r darluniau oedd ser, i gyfleu y syniad o serennu, ac oherwydd y cyd-destyn addysgiadol o dderbyn "seren aur".

Roeddwn i hefyd eisiau cyfleu'r syniad o edrych am ymlaen tuag at y dyfodol a'r mwynhad sy'n dod o ddysgu pethau newydd.

Roedd rhai syniadau'n dod yn haws, megis y syniad o gyd-weithio yn troi'n bar o blantos yn helpu ei gilydd i hel ser, a chyfleu'r syniad o fod yn "responsive" drwy ddangos merch o flaen drych tra fod cymeriad ar y tu mewn yn arwain y ffordd o ran syniadau.
Ar y llaw arall, roedd cyfleu gwrth-hiliaeth a chydraddoldeb ychydig yn anoddach, ond yn y diwedd penderfynais greu darlun sy'n cymryd ysbrydoliaeth gan ddarn enwog Matisse, "The Dance", sy'n cyfleu'r syniad o fod yn gysylltedig gydag eraill ac o ryddid, gan ddangos grwp o blant yn dawnsio law yn llaw.
Roedd y darlun ar gyfer "Arlosi drwy gydweithio" yn sialens hefyd, ond cefais aha moment wrth wneud coffi un diwrnod wrth i atgof o wneud gymnastics groesi fy meddwl. Meddyliais wedyn fod y syniad o gael twr o blant yn cyfleu'r syniad o gefnogi a chydweithio!

Wnai ddim egluro'r rhesymeg tu ol i bob darlun neu mi fyddai yma am byth, ond roedd o'n lot o hwyl i fedru brainstormio fel hyn ar gyfer y prosiect - roedd angen dipyn mwy o "lateral thinking" na'r arfer, a roedd hyn yn gwneud i'r gwaith deimlo'n reit ffresh a chynhyrfus. Roedd angen crynhoi'r holl syniadau yma wedyn ar gyfer y clawr. Dwi wastad yn ei gweld hi'n anodd i ddylunio clawr ar gyfer storis plant - mae crynhoi popeth i mewn i un llun, sy'n rhoi rhiw fath o syniad o'r hyn sy'n digwydd yn y stori ond sydd ddim yn rhoi gormod i ffwrdd, yn rili anodd!

Yn wreiddiol roeddwn i wedi meddwl crynhoi'r holl syniadau drwy gynnwys sawl cymeriad, ond roeddwn i'n gweld yn eithaf buan y byddai hyn yn rhy brysur ar gyfer y clawr, ac roedd o'n rhy debyg i'r darlun i gynrychioli "Our Mission/Vision":

Roeddwn i wedi defnyddio'r kaleidoscope/binoculars yn barod ar y dudalen oedd yn dilyn. Roeddwn i dal eisiau dynas ar y clawr gan mai athrawon ydi prif darged y strategaeth, ond roedd dal angen crynhoi'r holl wybodaeth tu mewn. Yn y diwedd dyma'r syniad yn dod ar ol imi gael aha moment arall am y syniad o "continuous learning" - meddyliais y byddai'n dda i ddangos y dysgu cydol oes yma gyda'r blociau pren rydym yn rhoi i blant bach, gyda'r cymeriad yn eistedd ar ben twr o flociau yn estyn am seren, i gyfleu'r syniad o uchelgais drwy addysg:
Roeddwn i'n licio golwg y blociau, a meddyliais y gallwn gyfleu'r holl elfennau a drafodwyd yn y strategaeth drwy'r un syniad o "building blocks":
Roedd y cymeriad dal yn brif ffocws y darlun ond roedd y syniad o edrych ymlaen yn cael ei gyfleu yn uniongyrchol drwy ei llygaid hi, a'r syniad oedd mai'r addysgwyr sy'n defnyddio'r adnoddau ydi'r rhai sy'n llywio y dyfodol a'n annog uchelgais o fewn y cwricwlwm newydd.

Yn gryno, roedd y prosiect yma'n lot o hwyl, a'n sialens newydd mewn sawl ffordd. Gan fod y deadline ar gyfer y gwaith yn lot tynnach, roedd angen i mi weithio nosweithiau a chwpl o benwythnosau, ond roeddwn i'n teimlo'n egniol wrth greu'r gwaith, ac ar ddiwedd y dydd, dyna sy'n cadw fi i fynd.
Comments