top of page
Search

Ebrill 2025

  • lleucugwenllian
  • 21 hours ago
  • 2 min read

Digwyddodd dau beth mawr yn mis Ebrill - Ffair Lyfrau Bologna, a pharatoi ar gyfer dyddiad cyhoeddi Gwen ac Arianrhod!!


Treuliais ddechrau'r mis ar strydoedd pinc a theracota Bologna, yn llawn egni newydd a gobaith diolch i'r Ffair Lyfrau plant. Mae'n bererindod creadigol i ddarlunwyr a dwi wedi bod eisiau mynd ers blynyddoedd, ond rhywsut doeddwn i ddim cweit yn teimlo'n barod, neu roedd 'na deadlines yn mynd yn groes. Blywyddyn yma, roeddwn i'n benderfynnol mod i am fynd.



Mae'n anodd disgrifio graddfa'r ffair, ond i roi syniad, roedd 33,318 o ymwelwyr (a phob un yn aelod o'r diwydiant llyfrau) blwyddyn yma!


Dwi wedi bod yn teimlo'n reit ddigalon am ddyfodol darlunio, llyfrau, a chreadigrwydd yn gyffredinol yn ddiweddar oherwydd popeth sy'n digwydd efo AI. Roeddwn i wedi digaloni cymaint i'r pwynt lle roeddwn i'n cysidro newid gyrfa, ond wedi ymweld a Ffair Lyfrau Plant Bologna, mae gen i gnewyllun newydd o obaith.



Roedd cymaint o egni yn y lle, a chymaint o bobl yn teimlo'n angerddol am yr angen i beidio ildio tir i ddelweddau AI. Roedd gweld cynrychiolaeth o bob cornel o'r byd (gan gynnwys wynebau cyfeillgar o Gymru fach!) yn anhygoel - roedd cymaint o bobl yn mynd a dod, yn rhuthro o un cyfarfod i'r llall, a phawb yno yn benodol i drafod llyfrau, datblygu syniadau, gwneud cysylltiadau, a chyfarfod pobl newydd.



Mi wnes i adael yr Eidal efo gobaith newydd. Cefais gyfarfod pobl annwyl, sgwrsio efo golygyddion a chyhoeddwyr, clywed am beth sy'n gweithio, beth sy'n gwerthu, beth mae'r diwydiant yn chwilio amdano.


Roedd 'na gyfle am adborth penodol ar bortffolios darlunio gan weisg ac asiantau hefyd - weithiau roedd angen ciwio am oriau, ac mewn achosion eraill roeddwn i'n ddigon ffodus i gael slot amser, ond roedd o mor wych i gael adborth gan gymaint o wahanol bobl, a phawb yn gwybod eu pethau!


Ar yr awyren, roeddwn i'n methu cadw rhag sgriblo yr holl ffordd - syniadau newydd, cymeriadau, straeon gafodd eu sbarduno gan sgyrsiau diddorol. Am y tro cyntaf ers amser maith, roeddwn i'n teimlo fod yna bwynt cofnodi'r syniadau, a dyna'r trysor mwyaf gwerthfawr y gallwn i obeithio dod yn ol efo fi fel souvernir.


Roedd Ebrill yn fis cynhyrfus am reswm arall hefyd - paratoi at ryddhad Gwen ac Arianrhod, fy nofel raffeg gyntaf! Mi fyddai'n sgwennu mwy am y broses o greu'r llyfr yn post mis Mai.

 
 
 

Recent Posts

See All

Comments


  • Instagram
bottom of page