top of page
lleucugwenllian

Hydref 2024

Mae'r amser wedi dod unwaith eto imi ddechrau 'sgwennu blog. Mae'n tueddu i ddigwydd bob riw bedair mlynedd - roeddwn i'n cadw blog ar gyfer y brifysgol (oedd yn ofnadwy o pretentious) ac eto am gyfnod byr yn ystod y cyfnodau clo, diolch i gymorth Llwyddo'n Lleol. Mae'n neis i edrych yn ol ar hwnnw erbyn hyn (er gwaetha mwy o 'sgwennu gwael), a dyma ni rwan, yn 2024.


Dwi wedi bod yn meddwl am y peth ers misoedd. Mae'n gas gen i gyfaddef, ond colli mynadd efo Instagram oedd y catalyst - roeddwn i'n dibynnu lot ar y platfform ar gyfer fy marchnata yn nyddiau cynnar fy ngyrfa, a cefais lot o waith o'i herwydd yn ystod y cyfnod clo, ond roeddwn i wedi hen syrffedu erbyn 2022. Roedd rhaid rhoi mwy o waith ac amser i greu pyst a phostio bob dau funud i gadw'n algorithm yn hapus, dim ond i weld llai a llai o fantais o ddefnyddio'r platfform. Dwi'n reit breifat, ac felly roedd o'n gallu teimlo'n annifyr i droi fy mywyd dydd-i-ddydd i mewn i 'content' ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, ac roedd o'n dechrau cael effaith reit negatif ar fy iechyd meddwl. Er mod i'n caru gweld gwaith fy nghyd-ddarlunwyr, roedd o'n anodd peidio cymharu eu llwyddiannau nhw gyda fy rhai i, a bob tro byddwn yn rhannu post oedd yn 'perfformio' yn wael, roeddwn yn ei gymryd fel adlewyrchiad o fy ngallu creadigol.


Roedd hyn yn wirion, oherwydd roeddwn i'n ffodus iawn fod gen i ddigon, os nad gormod o waith ar gyfer cleientiaid hyfryd. Ar ddiwedd y dydd dyma sy'n bwysig - ond mae'r platfform wedi'i ddylunio i wneud i ni deimlo fel hyn. Roedd cymharu fy hun bob dau funud a'r teimlad fod rhaid brysio i greu gwaith newydd o hyd i gadw'r algorithm yn hapus yn cael effaith ar safon fy ngwaith creadigol.


Cefais lond bol yn y gwanwyn, pan benderfynodd Meta newid eu polisi AI. O fis mehefin ymlaen, byddai'n holl 'content' sy'n cael ei uwchlwytho i'r platfform yn cael ei ddefnyddio i hyfforddi eu modelau AI, oni bai fod defnyddwyr yn optio allan yn fwriadol. Yn anffodus does dim posib i mi optio allan, gan fy mod i'n byw yn Macedonia.


Mae llawer o bobl clyfrach na fi wedi siarad am y problemau moesol gyda "celf" AI, felly wnai ddim ail-adrodd, ond roeddwn i'n reit flin. Dwi ddim yn hoff o'r syniad o un o gwmniau mwyaf y byd yn defnyddio gwaith eu defnyddwyr i hyfforddi AI heb dalu ceiniog i neb, felly dwi heb bostio dim byd i Instagtam ers Mehefin.

Mi wnes i ddileu'r app o fy ffon, ac mae hyn wedi cael effaith bositif aruthrol ar fy mywyd - doeddwn i ddim yn sylwi faint o amser oeddwn i'n gwastraffu yno, a pha mor ddrwg oeddwn i'n teimlo wrth sgrolio drwy for o hysbysebion a pyst doeddwn i ddim eisiau gweld beth bynnag. Dwi'n diflasu'n lot amlach rwan, ac yn lle estyn am y ffon, mae'n gyfle i feddwl am straeon, am brosiectau hoffwn weithio arnynt, ac am sut hoffwn wella fy ngwaith. Mae gen i lot mwy o amser i weu, hefyd.


Roedd yr effaith mor bositif, bron imi ddileu'r cyfrif yn gyfan gwbl, ond pan ddaeth at wthio'r botwm dileu roeddwn i'n methu. Er gwaetha'r holl ddiffygion, mae'r gofnod o flynyddoedd o ddatblygiad. Mi wnes i gychwyn y cyfri pan oeddwn i'n Coleg Meirion Dwyfor, yn 16 oed, ac er mod i wedi cuddio llawer o'r hen waith sydd bellach braidd yn embarassing, mae'n fy atgoffa o faint mae fy ngwaith wedi newid dros y blynyddoedd.


Yn y diwedd mi wnes i benderfynnu peidio llosgi popeth i'r llawr - mewn gwirionedd, mae'n siwr fod popeth dwi a phob artist arall wedi rhoi ar y we wedi cael ei ddefnyddio i hyfforddi AI yn barod. Mae gen i dal lot o bobl annwyl yn dilyn fy nghyfri yna, sydd wedi cefnogi fi dros y blynyddoedd. Ar y llaw arall, doeddwn i'n sicr ddim eisiau dal i bostio fy ngwaith yno, felly roedd gen i 'chydig o ddilema.


Mi wnes i roi'r peth i gefn fy meddwl dros yr haf - roeddwn i'n gweithio ar fy nofel raffeg gyntaf, a'n gweithio ar brosiect mawr arall ar yr un pryd, felly doedd gen i ddim amser i feddwl am y peth. Ar ol lot o nosweithiau hwyr a phenwythnosau wrth fy nesg, dwi'n hapus fod y gwaith yn dipyn ysgafnach bellach.



Roedd mis hydref yn fis cynhyrfus - mae'r flwyddyn yn dilyn y patrwm yma'n reit amal, gyda'r gwaith yn cynyddu a chynyddu dros yr haf, tan i'r hydref ddod ag amser i orffwys a meddwl am y flwyddyn i ddod. Mae 2024 wedi bod yr un fath - ers dod yn o'n gwyliau, dwi wedi bod yn dechrau ar lot o brosiectau cynhyrfus a thrafod syniadau gyda cleientiaid.


Roedd rhaid i fy ngwr druan wrando arnai'n cwyno dros yr haf mod i wedi llosgi allan a mod i eisiau cymryd sabbatical dros y gaeaf, a bob tro byddwn i'n codi'r peth, dyma fo'n edrych yn amheus arnaf ac yn mynd "os ti'n deud." Mae o'n nabod fi'n rhy dda - wythnos ar ol dod yn ol o'n gwyliau dyma fo'n dod adra a'n gofyn sut mae'r sabbatical yn mynd, ac yna chwerthin pan ddwedais mod i wedi cytuno i brosiect arall unwaith eto. Y peth ydi, mae'n rili anodd deud na pan dwi'n cael gweithio gyda pobl mor hyfryd sy'n dod ata'i efo prosiectau mor ddiddorol!


Beth bynnag, ar ol lot o bendronni dros yr haf, penderfynais i beidio gael gwared ar Instagram (ddim eto, beth bynnag). Y peth dwi'n licio fwyaf am y platfform ydi gallu rhannu gyda pobl eraill - mae darlunio yn waith hyfryd, ond mae'n gallu bod yn reit unig, felly mae'n neis i deimlo fel rhan o gymuned greadigol. Dwi eisiau cadw record i fi fy hun hefyd - mae'n neis i edrych yn ol rwan a gweld faint dwi wedi gwella (er fod o'n brofiaid braidd yn embarassing weithia). Yn amlwg, mae'n bosib gwneud hyn heb ddibynnu ar Instagram, ac felly penderfynnais roi cynnig ar y blogio eto. Dwi'n meddwl y byddai'n rhannu'r blog ar y cyfryngau cymdeithasol, ond dyna ni am rwan.


Mi wnai fy ngorau i bostio bob mis am rwan, ond os ydi hynny'n mynd i'r gwellt, mi roi gynnig arall arni mewn pedair mlynedd.



9 views

Recent Posts

See All
bottom of page