top of page
Untitled design.jpg

Ail-frandio llinell gymorth meic

Cydweithiais gyda ProMo-Cymru i ddatblygu a dylunio iaith weledol newydd ar gyfer Llinell Gymorth Meic, gyda ffocws penodol ar greu cynnwys ar gyfer TikTok. Y briff oedd creu cast o gymeriadau fyddai'n apelio at Gen-Z i gyd-fynd a themau gwahanol (megis iechyd meddwl, arian ac addysg).

​

Roedd angen i'r cymeriadau apelio at ystod eang o oedrannau ac felly penderfynom ni gymryd ysbrydoliaeth gan boblogrwydd tegannau meddal megis Jellycats ymysg pobl ifanc. 

​

Dyluniais ffont newydd yn benodol ar gyfer eu cyfryngau cymdeithasol i adlewyrchu'r iaith weledol "meddal" newydd. 

​

Mae criw ProMo-Cymru bellach yn defnyddio'r asedau a grewyd i lunio eu posts eu hunain ar gyfer TikTok ac Instagram.

​

Gellir gweld Instagram Meic yma.

  • Instagram
bottom of page